Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
04 Rhagfyr 2023
SL(6)418 – Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”). Mae Rheoliadau 2000 yn rhagnodi tybiaethau am beiriannau a pheirianwaith ar hereditament, neu mewn hereditament, at ddibenion prisio ar gyfer ardrethu.
Mae’r Atodlen i Reoliadau 2000 yn rhagnodi’r dosbarthau ar beiriannau a pheirianwaith y tybir eu bod yn rhan o hereditament at ddibenion prisio ar gyfer ardrethu, gydag eithriadau ar gyfer dosbarthau rhagnodedig penodol.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Dosbarth 1 yn yr Atodlen i Reoliadau 2000 er mwyn mewnosod dau eithriad pellach mewn cysylltiad â pheiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a mannau gwefru cerbydau trydan. Mae’r eithriadau hyn yn gymwys mewn perthynas â diwrnodau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024 a chyn 1 Ebrill 2035.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Fe’u gwnaed ar: 20 Tachwedd 2023
Fe’u gosodwyd ar: 21 Tachwedd 2023
Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2024